Bydd fferm wynt Llywelyn, ynghyd â’i chwaer brosiect ‘Petroc’ yn nyfroedd Cernyw, ymhlith prosiectau gwynt ar y môr arnofiol cyntaf ar raddfa fasnachol yn y DU, gan ddefnyddio’r genhedlaeth nesaf o dechnoleg ynni adnewyddadwy glân ar y môr. Bydd technoleg gwynt arnofiol arloesol yn ein galluogi i osod Llywelyn mewn dŵr dyfnach, ac ymhellach o’r lan, gan leihau effeithiau gweledol ac amgylcheddol wrth fanteisio i’r eithaf ar wyntoedd cryfach a mwy cyson.
Gydag adnodd gwynt rhagorol, dyfnder dŵr addas a gofyniad ar gyfer cynhyrchu trydan newydd, mae’r Môr Celtaidd yn ddeniadol iawn i ddatblygiad gwynt arnofiol. Mae’r rhanbarth yn cynnig cyfle unigryw i ddatgloi capasiti ynni glân newydd a helpu i sefydlu sector diwydiannol newydd. Hyd yma, ychydig iawn o ddefnydd o seilwaith ar y môr a welwyd yma.
Mae Llywelyn yn un o ddau brosiect gwynt ar y môr arnofiol arloesol a ddatblygwyd gan Falck Renewables a BlueFloat Energy yn y Môr Celtaidd. Ynghyd â Petroc, gallai’r prosiectau hyn gyfrannu hyd at 600MW o gapasiti ynni adnewyddadwy i dde Cymru a de-orllewin Lloegr, a chyflawni’r rhan fwyaf o darged gwynt ar y môr arnofiol 1GW y DU erbyn 2030.
Gallwch ddarllen mwy am Petroc yma.
Dewiswyd lleoliad Llywelyn yn dilyn astudiaeth ddichonoldeb helaeth a phroses asesu safle drylwyr. Mae ein hasesiad wedi cynnwys adolygiadau o ardaloedd gwarchodedig, effeithiau amgylcheddol, llwybrau ceblau, seilwaith presennol, traffig morol, a gweithgarwch pysgota.
Rydym wedi llofnodi cytundeb gyda’r Grid Cenedlaethol, gan sicrhau cysylltiad grid 300MW yn Sir Benfro. Mae gweithredwr y system yn ystyried uwchraddio’r safle presennol er mwyn hwyluso’r cysylltiad. Bydd y datblygiadau hyn yn galluogi prosiect gwynt ar y môr Llywelyn i ymuno â’r system gynllunio yn gyflym.